Ynglŷn â’r sioe.
Meddwl eich bod yn gwybod am grancod? Meddyliwch eto. Mae’r creaduriaid annwyl llachar yma wedi codi o wely’r môr i strytio, disgleirio a gwasanaethu. Croeso i CRABULOUS!, sioe Grancaidd newydd Hijinx. Disgwyliwch weld gwisgoedd rhyfeddol, cystadleuaeth ffyrnig, a dathliad llawn llawenydd o fod dros ben llestri heb fod â chywilydd o hynny. Mae hi’n fyd peryglus ar y trai, wrth i bob cranc ymladd am y goron. Pwy fydd yn dod i frig y don? Gwallgo’, rhaid ei weld ac yn hwyl dros ben cregyn.
Gwybodaeth Rhaglen.
I grancod a phobl o bob oed. Yn para tua 30 munud. Yn addas ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored a gwyliau. Gellir ei drefnu ddwywaith y dydd. Gellir cynnwys gorymdaith ymlaen llaw. Ar gael i deithio’r byd (â’r cefnforoedd).
Cysylltwch â ni
Cast a Chriw Hijinx.
Mae’r perfformiad theatr stryd hwn yn cynnwys 4 perfformiwr, 2 ohonynt ag anabledd dysgu a/neu yn awtistig. 1 Technegydd ac 1 Hwylusydd Creadigol hefyd yn cefnogi’r perfformwyr ar daith pan fyddant dramor.
Gofynion Technegol.
Mae cyfle i’r gynulleidfa ryngweithio a chymryd rhan. Angen system PA.
Trelar Crabulous!.
Wedi ei gomisiynu gan.

Cast a Thîm Creadigol.
Ben Pettitt-Wade ac Ellen Groves
Cyd-gyfarwyddwr
Ellen Groves
Cysyniad gwreiddiol
Ashford Richards: Poseidon, Y Môr Tawel
Perfformwyr a Chrewyr
Ellen Groves: Irene, Môr Iwerddon
Perfformwyr a Chrewyr
Ffion Gwyther: Sunny, Môr Sargasso
Perfformwyr a Chrewyr
George Orange: Cray, Bae Biscay
Perfformwyr a Chrewyr
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchu a Dylunio Sain
Rosie Mullaney
Cynhyrchydd
Rhiannon Matthews
Dylunio Gwisgoedd
Ilaria Bestazzi
Cynorthwyydd Gwisgoedd
Laura Martin
Gwneuthurwyr y Crafangau
Allemaal Tejater
Dylunio Wigiau