Mae hi’n Nadolig 1985. Mae hufen y byd pop yng Nghymru yn ymgasglu mewn warws yn Tiger Bay i recordio’r sengl Nadolig elusennol berffaith...
Mae bandiau anferth fel Vaguely Electrical, Andreus Peter, a Dolly Cash yn rhoi eu hego personol o’r neilltu at achos da – neu felly mae’n ymddangos…
Ond wrth i’r camerâu droi ac i’r microffonau recordio, mae pethau’n dechrau mynd o chwith. A yw’n broblem dechnegol syml? Cyn seren bop genfigennus? Ysbryd Nadoligau’r gorffennol? Neu rywbeth llawer iawn mwy dychrynllyd?
Yn llawn o gerddoriaeth wreiddiol, cythrwfl cefn llwyfan, a throad uwch-naturiol yn y gynffon, mae Christmas No. 1 oedd gomedi gerddorol sbon gan Gagglebabble, wedi ei dyfeisio gydag Odyssey Hijinx. Yn cynnwys cast mawr o berfformwyr anabl a heb anabledd, mae’r sioe ryfeddol o ddychrynllyd a drygionus o gerddorol hon yn llawn o hwyl yr ŵyl, anthemau roc ac yn ein hatgoffa nad yw popeth bob amser fel y maen nhw’n ymddangos…
Dyddiadau ac amseroedd y perfformiadau:
Dydd Iau 20 Tachwedd, 7pm
Dydd Gwener 21 Tachwedd, 7pm
Dydd Sadwrn 22 Tachwedd, 3pm + 7pm
Amser rhedeg: Tua 70 munud
Hygyrchedd:
Roedd gan bob perfformiad ddisgrifiad sain gan Alastair Sill.
Roedd gan bob perfformiad ddehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Sami Dunn.
Trelar Christmas No.1.
Taflen Sain (Saesneg).
Trelar BSL.
Gwaith celf gan Ozzy Corbett.
