Am y sioe.
Mae chwech astronot yn eu dillad gofod llawn yn glanio ar blaned newydd ryfedd – dim ond i ddarganfod nad ydyn nhw’r rhai cyntaf yno. Mae’r hyn sy’n dilyn yn ymdrech dyner, ddoniol ar greu’r cysylltiad cyntaf. Pwy yw’r bobl ryfedd yma ar y ddaear? Pam eu bod yn codi llaw yn ôl? Ac a yw’n bosibl…nad ydyn ni mor wahanol wedi’r cwbl? Mae Astronauts yn berfformiad ar orymdaith trawiadol i’r llygad yn llawn o adegau syml ond emosiynol – yn rhannol glownio, rhannol freuddwyd wyddonias. Heb unrhyw eiriau, dim ond ystumiau, sain a rhyngweithio ysgafn, mae’r sioe yn gwahodd cynulleidfaoedd o bob oed i ddychmygu cysylltiad ar draws gwahaniaeth.
Gwybodaeth i’r rhai sy’n creu rhaglen.
Mae hwn yn ddarn crwydrol i leoedd cyhoeddus – dan do neu yn yr awyr agored – sy’n cael ei berfformio gan chwech astronot mewn gwisg lawn, ynghyd a pheiriant lleuad sy’n llawn o dechnoleg sain. Bydd y perfformwyr yn cerdded trwy’r dorf ar siâp penodol, yn stopio i godi llaw, gwneud ystumiau chwareus a llunio adegau bach o gysylltiad gyda’r rhai sy’n mynd heibio. Ar adegau penodol, maent yn dod i lawr o’u ‘shuttle’ ac yn creu’r cyswllt cyntaf â’r gynulleidfa – gan ddarganfod, trwy gyffwrdd yn ysgafn a chydnabyddiaeth dawel nad ydyn nhw mor wahanol wedi’r cwbl.
Manylion technegol.
Sioe symudol ar raddfa fach heb eiriau. Addas ar gyfer mannau dan do ac yn yr awyr agored. Delfrydol ar gyfer cynulleidfa deuluol a digwyddiadau cyhoeddus ar raddfa fawr. Hyd at 3 perfformiad 30 munud y dydd. 8 yn y criw (6 perfformiwr, 1 technegydd, 1 i gefnogi). Gallu cyrraedd 1000 o aelodau mewn cynulleidfa ym mhob perfformiad.
Astronauts Fusion.
Ym mis Gorffennaf 2025, fe wnaethom gydweithio unwaith eto gyda Satélite Teatro, y tro hwn ar berfformiad 'Astronauts Fusion'; aeth y 6 perfformiwr arferol yn 12 ar gyfer 6ed ben-blwydd The Astronauts yng ngŵyl theatr gynhwysol Alles Muss Raus! yn Kaiserslautern, yr Almaen. Fe’i perfformiwyd hefyd yng Ngŵyl Undod 2026.
Creative Team.
Ben Pettitt-Wade
Cyfarwyddwr Artistig Hijinx
Brian RodrÃguez
Cyfarwyddwr Artistig Satélite Teatro
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchiad
Angharad & Rhiannon Matthews
Dylunio Gwisgoedd
Buddug James Jones
Dylunio ‘Mono’