Taniwch y golau. Gwisgwch eich sodlau. Ffwrdd â ni!.
Rydym yn cychwyn Gŵyl Undod 2026 mewn steil gyda noson o drag, cynhyrfu’r dyfroedd a dathliad digyfaddawd yn cael ei arwain gan y trydanol Midgitte Bardot. Yn berfformiwr llawn egni gyda llais dyrchafol a ffraethineb miniog, Midgitte sy’n eich arwain trwy’r noson – gan fynd â’r ystafell o ddagrau i lanastr llwyr mewn eiliad.
Yn y dyfnderoedd, bydd Crabulous! Hijinx yn crancio eu ffordd i’r digwyddiad gyda’u sblash o ddŵr hallt chwyldroadol. Yn rhannol anifeilaidd, rhannol freuddwyd gabaret… Disgwyliwch adrodd stori ddieithr, wirion ac ychydig yn wallgo sy’n llithro i’r ochr fel yr ydych yn meddwl eich bod wedi ei chornelu.
Nesaf, yr holl ffordd o Seville, mae cyfuniad mam/merch drag o Danza Mobile yn cyrraedd 10, 10 a 10 gan bawb gyda gwledd wedi ei seilio ar ddawnsio neuadd ddawns lle mae symud a gwrthsefyll yn cwrdd. Gwyliwch nhw’n hawlio’r llwyfan gydag agwedd llawn secwins.
Bydd yr House of Deviant yn dychwelyd yn groch yn eu cartref gyda’u dragstravaganza ‘LIPS: Loud, Indecent, Proud’. Mae prif griw drag ag anabledd dysgu Cymru yn ôl yn eu cartref, ond ddim i fod yn neis. Mae’r breninesau yma yn dwyn y llifoleuadau gyda thrac sain cywilyddus a storïau sy’n mynnu cael eu clywed, felly gadewch eich lleisiau mewnol wrth y drws oherwydd yn fan hyn ni fyddwn yn ymddiheuro am fod yn uchel ein cloch. Nid yw gwefusau llac yn suddo llongau, maen nhw’n cychwyn chwyldroadau!

Mwy o Wybodaeth.
Dyddiad: Dydd Mercher 1 Gorffennaf,
Amser: drysau 7.30pm, amser cychwyn: 8.30pm
Lleoliad: Cabaret, Canolfan Mileniwm Cymru
Rhybuddion cynnwys: iaith gref a themâu oedolion
Canllaw oedran: 18+, disgwyliwch egni hwyr y nos heb unrhyw hidlo




