Rydych wedi bod yn gwylio.
Owen Pugh
Gareth John
Lindsay Spellman
Iwan Jones
Nicholas Halliwell
Llŷr Williams
Jennie Rawling
or Sam Harding
Tîm Creadigol.
Ben Pettitt-Wade
Cyfarwyddwr
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchiad
Ellis Wrightbrook
Cynhyrchydd
Ceri James
Dylunydd Goleuo
Jonathan Dunn
Cerddoriaeth Wreiddiol
Tom Espiner & Giulia Innocenti
Pypedwyr (o Blind Summit)
Lindsay Foster, Dan McGowan, Richard Newnham, Craig Quat, Morgan Thomas & Martin Vick
Cast Dyfeisio Gwreiddiol
Jon Dafydd-Kidd, Denni Dennis, Ellen Groves & South Academy 1
Dyfeiswyr Ymchwil a Datblygu
Wrth eich bodd gyda’r sioe? Cyfrannwch at Hijinx fel anrheg pen-blwydd 10 oed i Fred 🎂✨


Nodyn gan y cyfarwyddwr, Ben Pettitt-Wade
Mae wedi bod yn 10 mlynedd anhygoel gyda’r sioe hon. Wrth edrych yn ôl, dwi ddim yn meddwl y gallai unrhyw un ohonom fod wedi breuddwydio y byddai’n mynd â ni i’r llefydd y mae wedi ein harwain, i Fringe Caeredin, ar draws Ewrop ac yna’r byd, ac yna yn anhygoel ein bod wedi cael y cyfle i wneud fersiwn gyfan gwbl Goreaidd o’r sioe. Bu’n daith ryfeddol gyda’r grŵp mwyaf gwych o bobl. Rwyf mor ddiolchgar i bawb y gwnaethom y sioe gyda nhw, a phawb sydd wedi ymuno â ni ar hyd y blynyddoedd. Mae’n ddarn mor wych i fod wedi bod yn rhan ohono, ac yn bleser ei berfformio i gynulleidfaoedd. Anodd yw credu bod Fred yn dal yma 10 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i wneud i bobl chwerthin ac ychydig yn flin hefyd efallai.
Hoffwn hefyd ddiolch i chi, ein cynulleidfa, am gefnogi eich theatr leol. Mae hwn yn gyfnod anodd i’r celfyddydau, mae teithio yn y Deyrnas Unedig yn anodd ar hyn o bryd, nid yw pobl wedi dychwelyd i’r theatr yn yr un ffordd â chyn y pandemig. Nid darlith yw hon, mae hyd yn oed y rhai ohonom sy’n gweithio yn y diwydiant yn ei wneud. Rydym yng nghanol argyfwng costau byw, mae gymaint haws aros gartref a gwylio un o’r llu o wasanaethau ffrydio, neu sgrolio ar ein ffonau, ond un dydd yn fuan gall yr ased cymunedol, ein theatr leol, fod wedi mynd – felly diolch i chi am ddod heno, diolch i chi am gefnogi’r theatr.
Rwy’n disgwyl, os ydych wedi darllen cyn belled â hyn eich bod eisiau gwybod ychydig mwy am y sioe, Meet Fred. Rhybudd! Efallai y byddai’n well i chi ddarllen hwn ar ôl y sioe os nad ydych wedi ei gweld o’r blaen!
Cychwynnodd y cyfan gyda gweithdy pypedwaith dan arweiniad Blind Summit yn 2014. Fe wnaethant ddysgu eu dull unigryw o greu pypedwaith Bunraku, gan ddefnyddio set o bypedau hyfforddi oedd yn edrych yn debyg iawn i Fred. Gwirionais arno, archebu ein set ein hunain o bypedau hyfforddi ganddyn nhw ac fe wnaethom ddechrau ei archwilio fel ffurf gydag artistiaid niwroamrywiol Hijinx, y cyfan yn hyfforddi yn ein Hacademïau. Wrth i ni chwarae gyda’r pypedau yma cododd cwestiwn – sut fyddai pethau i byped yn y byd go iawn? Wrth i ni ddechrau archwilio’r cwestiwn yma trwy ein hymchwil a datblygu, yr hyn ddaeth yn amlwg oedd bod llawer o rwystrau i atal pyped rhag bodoli yn y byd go iawn, ac nid y lleiaf o’r rheini oedd yr angen parhaus a’r ddibyniaeth ar bypedwyr i fodoli.
Ar yr adeg pan oeddem yn creu’r sioe, rhwng 2014 a 2016, roedd llawer o’n hartistiaid ag anabledd dysgu a niwroamrywiol yn wynebu newidiadau i’w budd-daliadau, a ddaeth trwy bolisi o lymder dan arweiniad y llywodraeth Geidwadol ar y pryd. Daethant â’r profiad hwn i’r ystafelloedd ymarfer a’r gwaith byrfyfyr – felly fe wnaethom ddechrau meddwl sut fyddai pethau petai Fred yn colli ei bypedwyr, yn union fel yr oedd llawer o’n hartistiaid yn cael eu bygwth gyda thoriadau i’w cefnogaeth nhw eu hunain. Roedd stori Fred a’i frwydr gyda’r ganolfan waith yn adlewyrchu bywydau’r artistiaid oedd yn creu’r sioe ar yr eiliad honno.
Er bod y sioe yn adlewyrchu cyfnod mewn amser, yn anffodus ychydig iawn sydd wedi newid. Un o’n prif resymau dros ddod â’r sioe yn ôl ar gyfer y daith 10 Mlwyddiant hon oedd tynnu sylw, yn ein ffordd fach ein hunain, at y mater hwn ar adeg pan mae toriadau i fudd-daliadau’r anabl a mynediad at waith ar yr agenda eto.
Gair am y Cyfarwyddwr, Martin a’r stori. Mae Meet Fred yn sioe ddidwyll iawn. Roeddwn wirioneddol eisiau i Martin Vick, un o actorion Hijinx fod yn draed i Fred, ond wrth inni ddod yn nes at gadarnhau’r rhannau daeth yn glir y byddai’n rhaid i’r gwaith pypedau fod yn eithriadol, neu roedd y lledrith yn cael ei chwalu’n llwyr, a byddai’r sioe yn methu. Roeddwn yn cael fy wynebu gan y realiti na fyddai Martin fyth yn mynd i gyrraedd pwynt lle byddai ganddo’r gallu i gynnal y pyped trwy gydol awr a hanner y sioe. Er na wnes i siarad ag ef yn y ffordd y mae’r cyfarwyddwr yn y sioe yn gwneud, pan fu’n rhaid i mi ddweud wrth na allai fod ar y pyped hwnnw, roedd yn wirioneddol dorcalonnus i’r ddau ohonom. Fe wnaeth i mi hefyd amau fy holl ddull – roeddwn wedi methu, wrth ddewis ffurf ar berfformio oedd yn syml yn anhygyrch i Martin. Ond, roeddem wedi cyrraedd pwynt pan oedd rhaid i mi roi blaenoriaeth i’r sioe.
Roedd Martin yn raslon iawn, ac yn deall y rhesymeg, ond yna roedd gennym y broblem o beidio â bod a rhan wahanol iddo. Fe ddechreuodd helpu gyda rheoli’r llwyfan wrth newid golygfeydd ar gyfer perfformiad bras yn hwyr yn 2015, ac arweiniodd hyn yn naturiol at ei weld yn rhan o’r sioe eto ac yn y pen draw yn meddiannu’r sioe yn y diwedd. Yn aml pan fyddwch yn dyfeisio sioe, y diwedd yw’r peth anoddaf i’w ganfod, ond fe ddigwyddodd eiliad glir o weledigaeth pan wnaethom sylweddoli, wrth gwrs, mai’r unig ffordd y gallai’r sioe orffen fyddai i Martin gael ei ddymuniad a bod yn un o goesau Fred.
Bu ein ffrind da Martin, y gwnaethom greu’r sioe gydag o ac a chwaraeodd ran y rheolwr llwyfan, farw yn hwyr yn 2016. Fe wnaethom ddewis parhau’r sioe gyda’i ffrind Gareth John yn chwarae ei ran, y byddwch wedi ei weld heddiw. Er cof am Martin, dewisodd Gareth gadw ei enw fel enw’r cymeriad.
Rydym ni i gyd yn gweld colli Martin yn fawr, ond i mi, mae rhan ohono’n dal yn fyw yn y sioe hon.

Nodyn gan Lindsay Spellman, Lucille/The Maker
Allai ddim credu ei bod hi’n ddeng mlynedd ers i ni gyfarfod Fred gyntaf! Mae’n dal i deimlo’n ffres a hwyliog bob tro y byddwn yn ei pherfformio, ond pan fyddaf yn stopio a meddwl am y peth, rydym wedi gwneud cymaint a theithio mor bell… nid yw deng mlynedd yn teimlo’n ddigon hir i gynnwys y cyfan. Petai raid i mi ddisgrifio Fred mewn un gair, ‘antur’ fyddai hwnnw, nid yn unig ar gyfer y stori yn y sioe, ond am yr holl anturiaethau y mae wedi ein harwain ni actorion arnynt hefyd.
Mae bod yn rhan o Meet Fred wedi fy newid yn fawr fel perfformiwr ac fel person. Pan ddechreuais i, nid oedd gennyf yr un hyder ag sydd gennyf yn awr. Mae teithio am gyfnod mor hir wedi dysgu cymaint o sgiliau i mi – perfformio mewn llefydd gwahanol, cyfarfod pobl newydd, cael tâl a rheoli’r arian hwnnw, dysgu teithio a gweithio fel tîm. Rwyf wedi tyfu cymaint, ac nid wyf yn meddwl y byddwn wedi cael hynny yn unrhyw le arall.
Rwy’n falch iawn o fod yn dal yn rhan o’r sioe hon, ac ni allaf aros i ddod â hi adref. Rydym wedi gwneud llawer o gwmpas y byd – nawr gall ein ffrindiau a’n teuluoedd yma yn y Deyrnas Unedig weld am beth mae’r ffỳs o’r diwedd!
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Hijinx am y newyddion a’r diweddariadau diweddaraf ✍️
Ffilm fer Extraordinary Bodies – 'Take Up Space'.
Mae ein ffrindiau yn Extraordinary Bodies wedi creu ffilm fer, Take Up Space, i ddathlu 12 mlynedd o Extraordinary Bodies. Gwneud Lle i Bob Corff.
“Take Up Space yw ein galwad ni i gael ein gweld a’n clywed – i wneud lleisiau’r anabl a’u celfyddyd yn fwy amlwg, yn fwy balch, ac yn hyfryd o apelgar. Mae’n eich atgoffa nad ydym yn mynd i unrhyw le, a gyda’n gilydd ein bod yn rym.” Jonny Leitch
Mae Mynediad at Waith yn stori o lwyddiant. Mae’n lefelwr. Mae’n hanfodol. Mae Mynediad at Waith yn galluogi llawer o bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol i wneud eu gwaith trwy greu tegwch o ran cyflogaeth. Mae Mynediad at Waith yn ariannu gweithwyr cefnogi, cyfieithwyr BSL, gyrwyr, offer a mynediad hanfodol.
Mae Extraordinary Bodies yn gydweithrediad rhwng Diverse City a Cirque Bijou.
Gwyliwch Take Up Space yn y dolenni isod
Fersiwn BSL.
Fersiwn Sain Ddisgrifiedig.
Os bydd themâu Meet Fred yn effeithio arnoch chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod, dyma rai adnoddau allai fod o ddefnydd:
- Disabled People Against Cuts (DPAC)’s: Hafan – DPAC
- Cyngor ar Bopeth: Cyngor ar Bopeth
- Disability Rights UK: Hafan | Disability Rights UK
- Decode – Cefnogaeth gyda’r broses Mynediad at Waith: Access To Work: Changes and Actions 2025 – Disability Arts Online
- Sense UK: Sense | I bobl anabl
- Y Samariaid: Y Samariaid | Mae pob bywyd a gollir i hunanladdiad yn drasiedi | Yma i wrando Ffoniwch: 116 123
Mwy am Hijinx..
Mae gwaith Hijinx yn pryfocio, chwalu stereoteipiau ac yn creu effaith parhaol. Rydym yn pledio achos artistiaid ag anabledd dysgu a/neu awtistig trwy:
▫️ Greu theatr y mae’n rhaid i chi ei weld yn cael ei yrru gan ein hartistiaid sy’n teithio at gynulleidfaoedd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol
▫️ Hyfforddi a chefnogi ein hartistiaid i weithio’n broffesiynol yn y celfyddydau yn Hijinx a thu hwnt
▫️ Llunio cymuned, hyder a sgiliau bywyd
