The Abominable Snowman

gan Hijinx Odyssey a Gagglebabble

Archebu Tocynnau

Wedi’i leoli yn ystod y cyfnod o rew eithafol yn 1962/3...

Mae The Abominable Snowman yn cyfuno antur a theimlad calonnog The Snowman gan Raymond Briggs â hiwmor ac anarchiaeth y cwmni theatr gerddorol arobryn, Gagglebabble.

Wedi’i leoli yn ystod y cyfnod o rew eithafol yn 1962/3 – ac yn cychwyn yn ‘The Quebec’, tafarn enwog gynt yn Bae Tiger – mae’r ifanc Sid a Gef (ei gydymaith, mwngws sy’n siarad) yn teithio cyn belled i’r gogledd â phosibl. Eu nod yw toddi calon yr ‘Abominable Snowman’ (Y Dyn Eira Ofnadwy) a dod â’r Gaeaf Diddiwedd i ben.

Ar eu taith, bydd Sid a Gef yn cwrdd ag amrywiaeth o greaduriaid dirgel (cryptids), ac yn cael eu rhwystro gan ‘Byddin y Naddion Eira Dyn Eira Ofnadwy’ – criw doniol ond anghymwys…

Gyda phypedau, cerddoriaeth wreiddiol a’ch ‘Llwybr Creaduriaid Dirgel’ eich hun i’w gwblhau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn y sioe, mae The Abominable Snowman yn sicr o fod yn wrthwenwyn oer i haf poeth 2026.


Dyddiadau ac amseroedd:
  • Dydd Iau 26 Tachwedd, 7yh
  • Dydd Gwener 27 Tachwedd, 7yh
  • Dydd Sadwrn 28 Tachwedd, 3yp + 7yh

Hygyrchedd:
  • Bydd disgrifiad sain gan Alastair Sill ym mhob perfformiad.
  • Mae teithiau cyffwrdd ar gael ar gais. Cysylltwch â caitlin.rickard@hijinx.org.uk o leiaf 24 awr ymlaen llaw i drefnu hyn.
  • Bydd dehongliad BSL gan Sami Dunn yn rhan o bob perfformiad.