Rydym yn cyflogi!

Dyddiad cau: 03 Awst 2025

Cydlynydd: Ymgysylltu Creadigol + Chelfyddydau’r Awyr Agored.

Y Rôl

Ydych chi’n rhywun sy’n dod â fflach greadigol a threfn dawel i’ch gwaith? A ydych yn ffynnu ar gynlluniau clir a llawenydd annisgwyl? A ydych wedi eich cyffroi gan theatr sy’n digwydd yn yr awyr agored, mewn mannau cymunedol, ac mewn ffyrdd sy’n croesawu pawb? 

Swydd lefel mynediad yw hon, sy’n ddelfrydol i rywun sy’n cychwyn arni yn cynhyrchu neu gydlynu’r celfyddydau, gyda chefnogaeth a dysgu yn rhan ohoni. Byddwch yn rhan o dîm bychan cydweithredol sy’n darparu theatr stryd a phrosiectau cyfranogol sy’n cynnwys artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. 

Yn y swydd hon byddwn yn: 

  • Cefnogi cynllunio a chyflawni ein rhaglen theatr stryd, gan helpu i reoli amserlenni, logisteg a chyfathrebu 
  • Gweithio ochr yn ochr ag Actorion Hijinx a’u rhwydweithiau cefnogi i sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan lawn mewn prosiectau creadigol 
  • Cynorthwyo i drefnu sioe Nadolig flynyddol Odyssey, cynhyrchiad llawn llawenydd, dan arweiniad y gymuned a wneir yma yng Nghaerdydd. 
  • Helpu’r tîm Theatr i gadw’n drefnus a chadw cysylltiadau, gan gefnogi’r Uwch Gynhyrchydd gyda gwaith gweinyddol o ddydd i ddydd, dogfennu a chynllunio 

Byddwch yn gweithio agosaf gyda’r Uwch Gynhyrchydd, ond byddwch hefyd yn cydweithio gyda’n Cyfarwyddwr Artistig, Rheolwr Cynhyrchu, a phartneriaid prosiect eraill. Nid oes arnoch angen llwyth o brofiad – dim ond greddf dda, gofal a pharodrwydd i ddysgu. 


Pecyn Swydd

Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.

Os hoffech y pecyn recriwtio mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni: jobs@hijinx.org.uk


I Wneud Cais

Os ydych yn credu eich bod yn addas i’r rôl ac yr hoffech wneud cais, anfonwch y canlynol atom:

  • CV cyfredol sy’n sôn am eich profiad gwaith hyd yma – gwnewch yn siŵr eich bod yn amlygu profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Llythyr eglurhaol – nad yw’n hwy na dwy ochr – sy’n dweud wrthym pam yr ydych yn ymgeisydd delfrydol a sut byddwch yn mynd ati i gyflawni cyfrifoldebau’r rôl. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi’i llenwi – y dylid ei llenwi ar-lein yma – cadarnhewch yn eich llythyr eglurhaol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.

Dylid anfon ceisiadau i jobs@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.

Rydyn ni’n gwybod y gall ymgeisio am swyddi deimlo’n llethol weithiau – yn enwedig os nad yw prosesau safonol bob amser yn gweithio i chi. Os nad ysgrifennu yw eich hoff ffordd o gyfathrebu, gallwch anfon fideo neu ffeil sain atom (hyd at 5 munud) yn lle llythyr eglurhaol ysgrifenedig.

Termau.

Teitl Swydd: Cydlynydd: Ymgysylltu Creadigol + Chelfyddydau’r Awyr Agored

Yn adrodd i: Uwch Gynhyrchydd 

Contract: Parhaol yn dilyn cyfnod prawf o 6 mis 

Oriau: Llawn-amser, 37.5 awr yr wythnos (peth gwaith min nos/penwythnos a theithio yn ddisgwyliedig, a chynigir TOIL) 

Lleoliad: Caerdydd, gyda gweithio hyblyg a theithio yn y Deyrnas Unedig/yn rhyngwladol yn gyson 

Cyflog Cychwynnol: £25,000 y flwyddyn 

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn + a Gwyliau Banc statudol

Dyddiad cau: 03 Awst 2025 (Hanner nos)


AMSERLEN

03 Awst 2025 – Ceisiadau’n cau am hanner nos

04 – 08 Awst 2025 – Mae ceisiadau’n cael eu sgrinio a’u gwneud yn ddienw

11 – 22 Awst 2025 – Llunio rhestr fer

26 Awst 2025 – Bydd pob ymgeisydd wedi derbyn penderfyniad

15 – 17 Medi 2025 – Cyfweliadau

27 Hydref 2025 – Dyddiad cychwyn disgwyliedig