Pinocchio and The Northern Lights

Guide me through the longest night,

Out of darkness comes the light.”

Diolch i dylwythen deg glyfar iawn, nid pyped pren yw Pinocchio bellach. Ond â Geppetto wedi mynd, a all Pinocchio ddysgu derbyn yr atgofion a dod o hyd iddo fo ei hun?

Ymunwch â Pinocchio y Nadolig hwn ar daith trwy uchelfannau ac iselderau emosiynau dynol.

O’r tywyllwch a’r tristwch daw antur ryfeddol. Yn cynnwys comedi, caneuon gwreiddiol, cast digidol rhyngweithiol yn fyw ar y sgrin a’r llwyfan, a phengwin hynod o ddewr...mae Pinocchio a Goleuni’r Gogledd yn berffaith i deuluoedd. Seiliwyd yr antur newydd llawn emosiwn a llawenydd hon gan Hefin Robinson yn fras ar y gwaith gan Carlo Collodi, a syniadau gan y rhai sy’n rhan o Hijinx Odyssey.

Addas i rai 5 oed a hŷn. Sylwer: Yn cynnwys themâu am golled a galar.

Canolfan Mileniwm Cymru, 2 - 4 Rhagfyr.