Gwaith Teg, Cyllid a’r Dyfodol

Mynd i 50fed ben-blwydd ITC (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd)

Pawb ar fwrdd trên Hijinx!.

Blog byr i ddod â newyddion i chi am ein taith ddiweddar i fyd celfyddydol prysur Llundain ar gyfer Cyfarfod Blynyddol a Chynhadledd 50 oed Cyngor y Theatrau Annibynnol (ITC). Roedd y Prif Weithredwr Dros Dro, Eloise, actor Academi’r De, Geraint a’r Uwch Gynhyrchydd Ellis yn falch iawn o gynrychioli Hijinx ac fe ail-etholwyd Ellis ar Fwrdd yr ITC yn ystod y gynhadledd. Wrth gamu i mewn i Theatr Soho, fe’n hamgylchynwyd ar unwaith â’i egni byw, chwyldroadol – cefndir addas ar gyfer jiwbilî aur yr ITC. Roedd y lleoliad, sy’n ganolfan ar gyfer theatr ddewr sy’n gwthio ffiniau, yn gosod y naws yn berffaith ar gyfer diwrnod o drafodaeth angerddol, ystyriaeth a dathlu. O’r dechrau cyntaf roedd yr ystafell yn llawn o sgwrsio am waith teg, heriau cyllido a dyfodol theatrau annibynnol, y cyfan yn cael ei gefnogi gan ymdeimlad anwadadwy o gyfeillgarwch sy’n dod o ddod yn rhan o’r sector anhygoel yma.

Nodyn atgoffa amserol gan Shami Chakrabarti.

Roedd gan Shami rai pethau pwerus iawn i’w dweud am y rheswm pam bod rhaid i’r celfyddydau godi llais, yn arbennig yn wyneb pobl fel Trump. Yn sylfaenol, dadleuodd bod y ffaith ei fod ef wedi ennill y grym yn profi nad dim ond rhywbeth ychwanegol, neis yw’r celfyddydau – maen nhw’n hanfodol i herio awdurdod a rhoi llais i’r rhai a allai gael eu hanwybyddu fel arall. Nododd bod y celfyddydau wastad wedi bod yn lle i fwrw amheuaeth ar rym a dal drych at gymdeithas, ac ar hyn o bryd, mae hynny’n fwy pwysig nag erioed. Nid dim ond mater o greu theatr, ffilmiau neu gerddoriaeth wych yw hi; mae’n ymwneud â defnyddio’r llwyfannau hynny i wrthwynebu awdurdodaeth ac ymladd dros ddemocratiaeth. Ac nid hi yw’r unig un sy’n meddwl fel hyn. Rydym wedi gweld artistiaid yn gweithredu o ddifri – fel Lin-Manuel Miranda yn tynnu Hamilton o Ganolfan Kennedy ar ôl i Trump lenwi’r Bwrdd â’i bobl ei hun. Ac wedyn mae’r 400+ o artistiaid sy’n gwthio yn ôl yn erbyn y rheolau newydd am gyllido’r celfyddydau yn yr Unol Daleithiau, sydd yn y bôn yn atal cefnogaeth i waith sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Pwynt Shami? Mae’r celfyddydau wastad wedi bod yn wleidyddol. A phan fydd pobl mewn grym yn ceisio eu cau i lawr, dyna pryd mae angen iddyn nhw fod uchaf eu cloch.

Darllenwch erthygl The Stage: “Trump is proof the arts need to speak up”

Dod am adref â meddyliau a chalonnau llawn.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyfres o drafodaethau a gweithdai i brocio’r meddwl, yn trafod pynciau allweddol fel arferion gwaith teg, modelau cyllido cynaliadwy, a’r esblygiad ym myd y theatr yn yr oes ddigidol. Roedd y sesiynau hyn yn rhoi dealltwriaeth werthfawr ac yn meithrin deialogau ystyrlon ymhlith y rhai oedd yn bresennol, gan atgyfnerthu’r ymrwymiad ar y cyd i gymuned theatr fywiog a chynhwysol. Rhannodd Geraint ei farn yn ystod y daith gartref ar y trên, gan nodi hanfod y profiad. Mynegodd ei ddiolchgarwch dwys am y cyfle i gysylltu â chyd-artistiaid ac arweinwyr y diwydiant, gan bwysleisio pwysigrwydd gwrando ar ein gilydd. Mae’r fideo a’r adysgrif lawn isod. Mae Hijinx yn diolch o galon i ITC a Theatr Soho am drefnu digwyddiad mor wych. Mae eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’r celfyddydau wedi bod yn allweddol wrth siapio byd theatr mwy cynhwysol a deinamig ac wrth i ni ystyried llwyddiant y gynhadledd, rydym yn ymuno â’r gymuned theatr ehangach i ddathlu 50fed pen-blwydd yr ITC. Boed i’r hanner can mlynedd nesaf gael eu llenwi â blaengaredd, cynhwysiant a rhagoriaeth artistig. Diolch yn fawr.

Fideo ac Adysgrif.

Helo, fy enw yw Geraint a heddiw roeddwn mewn cyfarfod am y pethau sydd yn dod. Roeddwn yn gweld y sgyrsiau yn eithaf diddorol. Fe wnes i wirioneddol fwynhau’r gweithdai rhyngweithiol hefyd. Fy hoff ran oedd siarad mewn grwpiau am yr hyn fydd yn gwneud pethau’n well, a dweud y gwir fy hoff ran oedd y gweithdy rhyngweithiol […ar gynaliadwyedd, dan arweiniad Lilli Geissendorfer Cyfarwyddwr Theatre Green Book]…
Rwyf wedi dysgu peidio brysio i wneud pethau ac i gymryd amser i wneud pethau.