Hyfforddiant Hwylusydd Creadigol.
Mae Hwylusydd Creadigol yn ei gwneud yn bosibl i artistiaid Byddar/Dall/anabl a/neu niwrowahanol i gyflawni eu hymarfer creadigol proffesiynol. Gallai hyn fod yn glyweliad, ar set ffilmiau neu daith theatr.
Rôl Hwylusydd Creadigol yw gwella ymarfer actor ar unrhyw swydd benodol fel y gallant gynhyrchu eu gwaith gorau tra’n cynnal iechyd corfforol a meddyliol da. Mae natur y swydd yn aml yn amrywiol a gall newid ar sail achos-wrth-achos yn dibynnu ar yr artist unigol a hefyd y gwaith.
Mae Hwylusydd Creadigol angen gwybodaeth briffio ymlaen llaw fel y gallant gynllunio sut byddant yn galluogi ymarfer creadigol artist. Gallant hefyd fod yn gwybod am ffactorau eraill tebyg i wybodaeth feddygol y bydd yr artist yn ei rhannu gyda’r Hwylusydd Creadigol ond heb ei hystyried yn berthnasol i’w rhannu ar eu dogfen mynediad neu’n eang yn y cynhyrchiad.
Enghreifftiau o Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau y gellid eu disgwyl gan Hwylusydd Creadigol. Fel y nodwyd, mae’r rhain yn amrywio ac felly nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.
• Sicrhau y caiff yr actor amser, gofod a pharch i gynhyrchu eu gwaith gorau.
• Eirioli dros gyflawni gofynion mynediad fel y nodir yn y Ddogfen Mynediad.
• Hwyluso cyfathrebu rhwng gweddill y cast a’r criw a’r actor.
• Cynorthwyo’r actor i wybod beth fydd yn digwydd nesaf a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod am amserlenni ac unrhyw newidiadau mewn amserlen.
• Cefnogi’r sector i wneud dewisiadau diet fydd yn eu galluogi i weithio ar eu gorau yn gorfforol a meddyliol, lle’n briodol.
• Cefnogi’r actor gyda’u hegni ac eirioli dros seibiant os oes angen.
• Gwneud nodiadau perthnasol a chynorthwyo gyda rhedeg llinell (neu gyfwerth) yn ystod cyfnodau segur os oes angen.
• Sicrhau fod yr actor yn gwybod beth a ddisgwylir mewn lleoliad proffesiynol a chefnogi dealltwriaeth o arwyddion cymdeithasol anysgrifenedig ac arferion proffesiynol.
• Rhoi cymorth tu allan i’r cynhyrchiad ei hun, h.y. teithio, yn ystod amserau seibiant ac yn y llety, lle darperir.
Nodyn ar Gydlynwyr Mynediad:
Mae’r swydd yn wahanol i swydd Cydlynydd Mynediad. Bydd Cydlynydd Mynediad yn goruchwylio mynediad ar gyfer yr holl gast a chriw. Mae’r Galluogydd Creadigol yno i wasanaethu’r talent, dim y cynhyrchiad. Maent yn ymwybodol iawn o ofynion mynediad yr artist unigol a byddant yn cydlynu gyda’r Cydlynydd Mynediad a’r cynhyrchiad i eirioli dros eu cyflawni. Os yw’r cynhyrchiad yn dyrannu tasgau y mae’r Galluogydd Creadigol yn teimlo sy’n cyfyngu ar eu gallu i gefnogi’r artist(iaid), gallant wrthod hynny. Yn y achos hwn, dylid cynnwys y Galluogydd Mynediad yn y drafodaeth am y ffordd orau i symud ymlaen.
Os hoffech wybod mwy am ddod yn Hwylusydd Creadigol neu weithio gyda Galluogwyr Creadigol, cysylltwch â Sami Dunn, Arweinydd Mynediad Hijinx: sami.dunn@hijinx.org.uk
Roedd cael galluogydd creadigol gyda ni ar ein diwrnod ffilmio yn werthfawr tu hwnt…Roedd y broses yn naturiol a chydweithiol – hollol wych!
OnPar Productions
Fe wnaeth y Galluogwyr hwyluso amgylchedd tawel a hamddenol ar y set lle roedd y talent a’r tîm cynhyrchu yn teimlo’n ddiogel a chysurus gyda’i gilydd ac roedd y diwrnod yn anhygoel o llyfn fel canlyniad.
Unquiet Media