Creation.
“Yn y dechreuad, anhrefn oedd y byd. Roedd y dŵr a’r ddaear yn gymysg i gyd a doedd dim byd yn gallu byw yno. Felly, daeth y duwiau at ei gilydd yn y chwe awyr uwchben a’r chwe byd islaw i wneud rhywbeth o’r llanastr yr oeddent wedi’i greu…
Mae Creation, sydd wedi’i lwyfannu fel micro-bypedwaith ar gyfer cynulleidfa fach, yn gwau hanesion hynafol o drachwant, ofn ac achubiaeth, gyda cherddoriaeth, naratif a hud cryf, gan adrodd hanes ein hoes trwy straeon traddodiadol a chyfleu neges amgylcheddol rymus.
Mae Creation, a gyfarwyddir gan Jess MacKenzie o’r elusen anabledd ECHO yn Leominster, yn stori ymdrwythol i bobl o bob oedran sy’n gwau ynghyd straeon traddodiadol o bob rhan o’r byd, gan gynnwys Sbaen, Gwlad Groeg, Gogledd America, Awstralia a’r Inuit.
Dyma rai ymatebion i Creation: “Am ddarn wirioneddol hardd o theatr! Heblaw am brocio’r meddwl mewn ffordd dywyll, mae hefyd yn llwyddo i fod yn ddoniol ac yn gyfareddol o brydferth. Mae’r propiau bychain fel trysorau bach ac mae’r actorion yn rhyfeddol…” – Barbara, aelod o’r gynulleidfa yn The Courtyard Theatre, Henffordd.
Cwmni Theatr About Face: Mwy.
Perfformwyr:
Tim Dowse: Adroddwr/Duw
Tom Fleming: Adroddwr/Duw
Jade Millward: Adroddwr/Duw
Richard Woodall: Adroddwr/Duw
Tîm creadigol:
Cyfarwyddwr Artistig: Jess MacKenzie
Gwybodaeth.
Ble? Cyntedd Neuadd Dewi Sant
Pryd? TBC
Iaith: Saesneg
Oedran Argymelledig: Unrhyw oed
Hyd: 50 munud
Tocynnau: Am ddim