Academi Hijinx yn yr Å´yl Undod.
Mae 2022 yn nodi 10 mlynedd ers i’n Hacademi gyntaf gael ei ffurfio! Mae hefyd yn 10fed flwyddyn ein Gŵyl Undod, felly mae’n un arwyddocaol iawn i ni. Eleni, yn rhan o’r Å´yl Undod, bydd ein holl Academïau yn creu perfformiadau arbennig i’w cyflwyno am y tro cyntaf yn rhan o’r ŵyl, gan ddefnyddio ein cês dillad pinc eiconig fel ysbrydoliaeth.Â
Bydd ein dau grŵp yn y de yn gweithio gyda’r grŵp theatr a pherfformio dawns ewn, Kitsch & Sync Collective, i greu perfformiad cyffrous a fydd yn cael ei gyflwyno tra bydd yr ŵyl yng Nghaerdydd.Â
Bydd gweddill ein hactorion yn y de yn ymuno â’r cwmni theatr chwareus ac archwiliadol o Fryste, Ramshacklicious, am gyfnod preswyl. Bydd y cyfnod preswyl yn rhan o brosiect mwy o faint y cwmni o’r enw Club Supreme, a bydd yn cael ei gynnal yn ystod y pythefnos cyn yr ŵyl; bydd y canlyniad yn cael ei berfformio yn rhan o’r ŵyl ar 24 a 25 Mehefin. Â
Bydd Academi’r Gogledd yn gweithio gyda’r artist symudiad ar ei liwt ei hun, Angharad Harrop, ar berfformiad newydd.Â
Bydd Academi’r Gorllewin yn gweithio gyda Chydlynydd Hwb y Gorllewin (Llawrydd), Crisian Emanuel, a’r tiwtor ar ei liwt ei hun, Angharad James, i greu darn a fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Llanelli ar 2 Gorffennaf, a bydd Academi’r Canolbarth yn gweithio gyda’r tiwtor ar ei liwt ei hun, Cath Rigler, i greu perfformiad a fydd yn cael ei gyflwyno yn Llanelli hefyd. Â