Theo and the Metamorphosis

Theo and the Metamorphosis.

Dangosiad Arbennig yng Ngŵyl Undod!

Bydd cynulleidfaoedd Gŵyl Ffilmiau Undod yn cael trît go iawn trwy gael cipolwg ar y ffilm syfrdanol hon, sydd wedi ennill gwobrau yn rhai o’r gwyliau ffilmiau mwyaf adnabyddus yn Ewrop, cyn iddi gael ei rhyddhau i’w dosbarthu yn y Deyrnas Unedig.

Mae Théo, dyn 27 oed â syndrom Down, yn byw mewn coedwig anghysbell gyda’i dad. Bob dydd, mae’n hyfforddi ei gorff i fod yn samurai. Un diwrnod, mae ei dad yn gadael ac mae Théo yn penderfynu dechrau bywyd newydd.

Ffilm ryfeddol, feiddgar a breuddwydiol gyda pherfformiad canolog syfrdanol gan Théo Kermel.

Cyfarwyddwyd gan: Damien Odoul
Cynhyrchwyd gan: Kidam
Ysgrifennwyd gan: Damien Odoul
Sinematograffi gan: Damien Odoul & Sylvain Rodriguez
Dosbarthwyd gan: Sovereign Films
Actorion: Théo Kermel, Pierre Meunier, Ayumi Roux, Louise Morin, Élia Sulem, Sonia Gondry, Vanda Tilseein, Olaf Oldinski ac Ethan Dabo 

 

Gwybodaeth.

Ble a phryd?
Chapter, Caerdydd – 20 Mehefin, 8pm
Pontio, Bangor – 28 Mehefin, 8.15pm
Ffwrnes, Llanelli – 1 Gorffennaf, 8pm


Hyd: 96 munud
Oedran argymelledig: 18 (tystysgrif i’w chadarnhau)
Iaith: Frangeg
Access: CC | AD