Llanelli.
Rydym yn mynd â Gŵyl Ffilmiau gyntaf Undod i Lanelli.
Mae gennym raglen lawn o ffilmiau nodwedd, ffilmiau byrion, animeiddiadau, ffilmio byw, rhaglenni dogfen, a rhai dangosiadau cyntaf a chipolwg ymlaen llaw cyn iddynt gael eu dangos yn unman arall.
⬇Â
Dyma beth rydym wedi’i gynllunio:
FFILMIAU BYRION 1
2pm
Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu mwy o’r ffilmiau byrion cynhwysol gorau a wnaed yma yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Bydd y ffilmiau a ddangosir yn cynnwys:
Glitch (Cymru) – cyfarwyddwyd gan Daniel McGowan, cynhyrchwyd gan Hijinx mewn partneriaeth â Bad Wolf
An Irish Goodbye  (Gogledd Iwerddon) – cyfarwyddwyd gan Tom Berkeley, Ross White; cynhyrchwyd gan Floodlight Pictures
Stairs (Awstralia) – chyfarwyddwyd gan Zoljargal Purevdash, cynhyrchwyd gan Bus Stop Films.
Love (Lloegr) – cyfarwyddwyd gan Jane Ashmore, cynhyrchwyd gan Jess Clark
Secret life of Tom Lightfoot (Cymru/Lloegr) – cyfarwyddwyd gan Ray Jacobs, cynhyrchwyd gan Arty Party
Bydd Sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y dangosiadau gyda rhai o greawdwyr ac aelodau o gast y ffilmiau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Oedran argymelledig: 15
Iaith: Saesneg
AD / CC
£6| £4
FFILM NODWEDD
4.45pm
Sanctuary
Cyfarwyddwyd gan Len Collin
Ffilm wych, ddoniol a theimladwy o Iwerddon a helpodd i arwain at newid y gyfraith.
Mae Larry a Sophie, dau berson ag anableddau deallusol, yn dyheu am fod gyda’i gilydd mewn byd sy’n gwneud popeth i’w cadw ar wahân.
Gwybodaeth
Iaith: Saesneg
Hyd: 86 minud
Tystysgrif Oedran: 15 (BBFC)
AD / CC
£6| £4