Artificial Things

Stopgap Dance Company

Artificial Things (Lloegr).

Mae grŵp o unigolion sy’n mygu’n araf yng nghwmni ei gilydd yn ceisio dihangfa mewn sbloet o roc a rôl terfysglyd. Ond, mae eu hanhrefn wyllt yn troi’n wleidyddiaeth iard chwarae ac yn datgelu rhai gwirioneddau anghyfforddus. Yn y cynhyrchiad sinematig hwn sy’n llawn mynegiant, mae Cwmni Dawns Stopgap yn creu byd cywasgedig o bosau sy’n herio ein syniadau am undod a chydfodolaeth.

Mae’r cwmni dawns Stopgap Dance wedi ailddychmygu eu cynhyrchiad llwyfan ar ffurf ffilm fer.

Mae’r ffilm, a ffilmiwyd ar leoliad mewn canolfan siopa faestrefol wag ac yn cynnwys ensemble o ddawnswyr anabl a heb fod yn anabl, yn archwilio rhyngddibyniaeth, nerth, a bregusrwydd dynol.

Cyfarwyddwyd a golygwyd gan: Sophie Fiennes

Cynhyrchwyd gan: Brook Crowley a Martin Rosenbaum

Coreograffi: Lucy Bennett

Actorion: Amy Butler, Laura Jones, Chris Pavia, David Willdridge a David Toole

Gwybodaeth.

Ble a Phryd?
Chapter, Caerdydd – 21 Mehefin, 1.30pm – 2.40pm


Hyd: 25 munud 34 eiliad
Oedran argymelledig: Recommended U
Iaith: amherthnasol
Access: CC