AMSERLEN 20 Mehefin.
Dau ddiwrnod o rai o’r ffilmiau nodwedd, ffilmiau byr a thrafodaethau gorau. Bydd digwyddiadau am ddim yn ogystal â dangosiadau â thocyn ar draws y ddau ddiwrnod. Archwiliwch isod. ⬇
Ble? Chapter, Cardiff
Pryd? Dydd Llun 20 Mehefin 2022
CROESO I ŴYL FFILMIAU UNDOD
11am
Am ddim
Croeso hamddenol i’r ŵyl. Dewch i gyfarfod â ni, dweud helô a chymysgu ag actorion Hijinx a gwneuthurwyr ffilmiau sy’n ymweld dros goffi a chacen.
SESIWN FFILMIAU BYRION 1 
1.30pm-3.00pm
Mae ein sesiwn ffilmiau byrion gyntaf yn canolbwyntio ar ffilmiau cymunedol a ffilmiau tro cyntaf gan wneuthurwyr ffilmiau niwrowahanol, yn ogystal â rhaglen ddogfen onest a syfrdanol, a stori newydd ac anghyffredin o Awstralia.
This is News Radio (Awstralia) – cynhyrchwyd gan Bus Stop Films
The Audition (Cymru) – cyfarwyddwyd gan Dylan Wyn Richards, cynhyrchwyd gan Hijinx gyda Ffilm Cymru
Different Voices (Lloegr) – cyfarwyddwyr amrywiol, cynhyrchwyd gan Biggerhouse
Containing Safety (Cymru) – cyfarwyddwyd a chynhyrchwyd gan Gerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE
Bydd Sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y dangosiadau gyda Steve Swindon o TAPE (Containing Safety, Approaching Shadows); Tom Stubbs a Stephen Clark o Biggerhouse Films: yn ogystal â rhai o’r actorion a’r gwneuthurwyr ffilmiau, wyneb yn wyneb a thrwy Zoom.
Oedran argymelledig: 12A
Iaith: Saesneg
Ffilmiau: CC | AD
Sesiwn Holi ac Ateb: Iaith Arwyddion Prydain
£6 | £4
Archebu
DANGOSIAD FFILM
3.30pm – 5.00pm
Approaching Shadows (Cymru)
*CIP YMLAEN LLAW!*
Gan barhau ag un o’r themâu o Sesiwn Ffilmiau Byrion 1, rydym yn falch o ddangos ffilm arswyd/ias a chyffro gynhwysol TAPE cyn iddi gael ei rhyddhau yn y Deyrnas Unedig.
Yn ystod eu penwythnos i ffwrdd i ddathlu eu priodas aur, mae Edward a Violet Knights yn cael eu gwahanu’n giaidd, sy’n ysgogi Violet i ymlid ei gŵr a herwgipiwyd yn wyllt trwy fyd cynyddol frawychus ac anghyfarwydd.
Cast: Serena Evans, Sean Jones, Alan Benbow
Oedran argymelledig: 15
Iaith: Saesneg
CC | AD
£6 | £4
DIGWYDDIAD RHWYDWEITHIO
5.30pm – 6.30pm
Cyfle anffurfiol i chi sgwrsio ag actorion, gwneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr a mynychwyr eraill yn y digwyddiad Gŵyl Ffilmiau.
Am ddim
SESIWN FFILMIAU BYRION 2
6.30pm-7.40pm
Pedair ffilm fer sy’n arddangos animeiddio ffraeth a dyfeisgar, realaeth hudol, stori ddisglair am hunaniaeth a’r Dangosiad Cyntaf yn y Byd o Stones and Dust gan Hijinx.
Filters (Awstralia) – cyfarwyddwyd gan Lianne Mackessy, cynhyrchwyd gan Bus Stop Films
The Secret Life of Tom Lightfoot (Cymru/Lloegr) – cyfarwyddwyd gan Ray Jacobs, cynhyrchwyd gan Arty Party
Mattricide (Lloegr) – cyfarwyddwyd gan Gemma Trigg, cynhyrchwyd gan Warpdog
Stones and Dust (Cymru) – cyfarwyddwyd gan Daniel McGowan, cynhyrchwyd gan Hijinx mewn partneriaeth â Bad Wolf
*Dangosiad Cyntaf yn y Byd*
Bydd Sesiwn Holi ac Ateb wyneb yn wyneb ar ôl y dangosiadau gyda Phennaeth Ffilmiau Hijinx, Dan McGowan, yr actor Andrew Tadd a’r cynhyrchydd ffilmiau, Ellen Groves.
Oedran argymelledig: 12A
Saesneg
Ffilmiau: CC | AD
Sesiwn Holi ac Ateb: Iaith Arwyddion Prydain
£6 | £4
Archebu
DANGOSIAD FFILM NODWEDD 2
8.15pm – 10.15pm
Theo and The Metamorphosis (Ffrainc/Y Swistir)
Cyfarwyddwyd gan Damien Odoul, Cynhyrchwyd gan Kidam
*Cip Ymlaen Llaw – DANGOSIAD CYNTAF YN Y DEYRNAS UNEDIG!*
Mae’r ffilm hon, sydd eisoes yn ennill gwobrau yn rhai o’r gwyliau ffilmiau mwyaf adnabyddus yn Ewrop, yn dilyn Théo, dyn 27 oed â syndrom Down, sy’n byw mewn coedwig anghysbell gyda’i dad. Bob dydd, mae’n hyfforddi ei gorff i fod yn samurai. Un diwrnod, mae ei dad yn gadael ac mae Théo yn penderfynu dechrau bywyd newydd.
Mae’r ffilm drawiadol a mentrus hon yn cyfuno harddwch â beiddgarwch ac yn mynnu cael ei gweld. Mae Gŵyl Ffilmiau Undod yn falch iawn o fod yn dangos y rhagolwg arbennig hwn cyn i’r ffilm gael ei rhyddhau’n swyddogol yn y Deyrnas Unedig.
Actorion: Théo Kermel, Pierre Meunier, Ayumi Roux
Bydd Sesiwn Holi ac Ateb fyw ar ôl y dangosiad rhagflas gyda chyfarwyddwr y ffilm, Damien Odoul, a’r actor Théo Kermel.
Oedran argymelledig: 18
Iaith: Ffrangeg (capsiynau)
Ffilm: CC | AD
Sesiwn Holi ac Ateb: Iaith Arwyddion Prydain
£6 | £4
View the schedule for: Dydd Mawrth 21 Mehefin 2022.